Mae'r rhestrau wedi'u llunio gan Quacquarelli Symonds, sef cwmni dadansoddeg addysg uwch byd-eang, sy鈥檔 gweithio ar fethodoleg sy'n canolbwyntio'n bennaf ar berfformiad ymchwil ac enw da rhyngwladol, gyda'i gilydd yn cyfrif am 65% o'r sg么r gyffredinol.
Gwelwyd perfformiadau cryf ar draws nifer o ddangosyddion, gyda'r brifysgol yn neidio 41 lle i 239 o ran y dangosydd Myfyrwyr Rhyngwladol.
Gwelwyd perfformiad hyd yn oed yn gryfach yn y dangosydd Amrywiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol, gyda Phrifysgol Bangor yn cyrraedd safle 210. Mae'r dangosydd hwn yn edrych ar gymhareb y myfyrwyr rhyngwladol i gyfanswm y myfyrwyr, yn ogystal ag amrywiaeth cenedligrwydd y myfyrwyr rhyngwladol hynny.
O ran y dangosydd Cynaliadwyedd, sy'n gwerthuso effaith gymdeithasol ac amgylcheddol prifysgolion yn unol 芒 Nodau Datblygu Cynaliadwy鈥檙 Cenhedloedd Unedig, mae Prifysgol Bangor yn cyrraedd safle 195. Mae'r perfformiad hwn yn cyd-fynd 芒 phrif thema cynllun strategol y brifysgol - Strategaeth 2030: byd cynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol.
Gallwch weld y rhestr gyflawn wrth glicio ar y ddolen: .
Dros y misoedd diwethaf, gwnaed ymdrechion sylweddol ar draws y brifysgol i wella ein perfformiad yn y rhestrau hyn. Mae'r cynnydd calonogol mewn meysydd allweddol, megis amrywiaeth a chynaliadwyedd myfyrwyr rhyngwladol, yn gadarnhaol iawn.
Gallwch weld y rhestr gyflawn wrth glicio ar y ddolen: .