Gwyliwch y seremonïau Graddio yn fyw
#GraddioBangor: dyddiadau seremoniau, amserlen a gwybodaeth allweddol
Bydd y dolenni hyn yn fyw TBC
Mae angen i'r holl fyfyrwyr sydd â hawl i ddod i'r Seremonïau Graddio roi gwybod i ni erbyn TBC a fyddant yn dod i'r seremoni neu beidio. Dilynnwch y bwtwm 'Cofrestru Yma' (uchod)) o TBC ymlaen er mwyn cofrestru.
Ni chaniateir i fyfyrwyr fynychu'r seremoni os nad ydynt wedi cofrestru eu presenoldeb erbyn TBC
Ar y diwrnod:
Mae'r holl Seremonïau'n cael eu dangos yn fyw ar wefan y Brifysgol felly gellir eu gwylio'n fyw.
Dylai myfyrwyr gyrraedd y Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau o leiaf 90 munud cyn ddechrau'r seremoni i gofrestru eu presenoldeb,
Mae mynediad i'r seremoni ar gyfer pob gwestai DRWY DOCYN YN UNIG Nid oes ar fyfyrwyr angen tocyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi dod â ffrindiau a theulu gyda nhw i'w seremoni raddio. Gan fod nifer y seddi yn Neuadd Prichard-Jones yn gyfyngedig, ni allwn warantu ond DAU DOCYN GWESTAI i bob myfyriwr os ydych yn archebu erbyn TBC
Gallwch archebu tocynnau ar-lein drwy'r ddolen yn yr ebost
Os methwch â phrynu'ch tocynnau gwesteion erbyn TBC ni allwn warantu y bydd eich gwesteion yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni.
Os daw unrhyw docynnau ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw rai o'r seremonïau, caiff y rhain Ar-lein TBC drwy ddilyn y ddolen wreiddiol a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru eich presenoldeb. Bydd y tocynnau'n am ddim yr un a chyfyngir hwy i ddau docyn ychwanegol i westeion i bob myfyriwr. Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael fe'u gwerthir ar sail y cyntaf i’r felin.
Mae gan rai seremonïau docynnau ychwanegol ar gael. Bydd y rhain ar gael i chi eu harchebu ar TBC trwy ddilyn y ddolen hon
Os bydd y seremoni yn llawn – efallai y bydd tocynnau ychwanegol ar gael ar ddiwrnod y seremoni . Gofynnwch wrth y ddesg docynnau wrth gyrraedd.
Dim ond ar-lein y gellir archebu tocynnau
I anfonir y tocynnau atoch trwy’r post, byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod eich seremoni o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau.
Casglu Tocynnau
Bydd holl docynnau gwesteion ar gael i’w casglu wrth y ddesg cofrestru myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Mae'n rhaid i docynnau gael eu casglu o leiaf 30 munud cyn dechrau'r seremoni.
Ym Mhrifysgol Bangor mae graddio'n achlysur teuluol ac mae croeso i blant ddod i'r seremoni. Fodd bynnag, mae'n rhaid i oedolyn fod efo nhw. Mae'r seremonïau’n para oddeutu 90 munud ac rydym wedi gweld trwy brofiad bod plant yn diflasu a mynd yn aflonydd; felly nid ydynt yn addas i blant ifanc iawn. O ran parch at westeion eraill rydym yn gofyn am i blant gael eu hebrwng allan o'r neuadd os byddant yn mynd yn aflonydd yn ystod y seremoni rhag iddynt darfu ar y digwyddiadau a mwynhad gwesteion eraill.
Rhaid i blant dan 3 oed (dim mwy na dau i bob myfyriwr) eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt. Rhaid i blant 3 oed a hŷn gael tocyn i westeion i gael mynd i'r seremoni.Os ydych yn dod â babi sy'n dal mewn pram neu goets fach i'r seremoni, a fyddech cystal â nodi hynny pan fyddwch yn prynu eich tocynnau. Gofynnir i chi p'un a ydyw unrhyw rai o'ch gwesteion angen unrhyw drefniadau arbennig. Ein cyngor yw i blant wylio'r seremoni o Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau, lle nad oes angen tocynnau.
Gwesteion ychwanegol:
Mae croeso i chi ddod â gwesteion ychwanegol a gallant wylio’r seremoni a ddarlledir ar sgrin fawr mewn darlithfa gerllaw - nid oes angen tocynnau ar gyfer hyn.
Mae graddio yn achlysur ffurfiol ac mae gofyn i fyfyrwyr wisgo gwisg academaidd.
Mae'r wisg yn cael ei harchebu drwy Ede and Ravenscroft fan yma o TBC ymlaen . Dyddiad cau i archebu ar-lein yw TBC
Mae'r dyddiadau ar gyfer Seremoniau y Gaeaf wedi'u cadarnhau fel 15 - 17 Rhagfyr 2025
Bydd Myfyrwyr rhyngwladol sydd angen llythyr fisa ar gyfer eu gwesteion yn gallu trefnu hyn wrth archebu tocynnau gwestai ar lein ym mis Mawrth.
Cyfle i longyfarch ein Graddedigion a rhannu eich dathliadau Graddio.
Defnyddiwch #GraddioBangor a #PrifysgolBangor ar Instagram neu Twitter - gall ymddangos yma.
WEDI I CHI RADDIO
Arolwg Hynt Graddedigion
Ar ôl i chi raddio o Brifysgol Bangor, byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf y Deyrnas Unedig – yr 15 mis ar ôl i'ch cwrs ddod i ben.
Wedi'i lansio yn 2018, mae'r arolwg cenedlaethol hwn yn casglu mewnwelediadau i gyrchfannau a phrofiadau graddedigion.
Mae eich ymateb yn helpu myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus ac yn caniatáu inni werthuso a hyrwyddo ein cyrsiau. Mae'r arolwg yn cymryd 10 munud i'w gwblhau ar-lein ac mae ar gael ar unrhyw ddyfais.
Sicrhau bod eich manylion cyswllt yn gywir
Mae angen i'r brifysgol gadw manylion cyswllt personol cyfredol er mwyn i'r tîm Canlyniadau Graddedigion allu cysylltu â chi gyda’r arolwg. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhannu’r canlynol gyda ni:
- Cyfeiriad e-bost personol
- O leiaf un rhif ffôn uniongyrchol
- Cyfeiriad post cartref (gall hwn fod yn gyfeiriad rhiant/gwarcheidwad)
diweddaru eich manylion cyswllt
Bydd yr arolwg yn cael ei gyflwyno gan y tîm Canlyniadau Graddedigion sy'n rhan o'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar ran y cyrff ariannu a rheoleiddio addysg uwch a darparwyr addysg uwch. Mae'r cyrff ariannu a rheoleiddio’n comisiynu'r arolwg Canlyniadau Graddedigion ac yn ei gwneud yn ofynnol i HESA a darparwyr addysg uwch gydweithio i gyflawni'r arolwg. Mae HESA wedi cyhoeddi gwybodaeth preifatrwydd i fyfyrwyr ynghylch sut y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio.
Unrhyw ymholiad?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom neu gallwch ymweld â .
Agor Eich Cyfrif Graddedig
Os ydych angen cefnogaeth i wneud y naid o’r Brifysgol i’r byd Gwaith, mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i’ch helpu ar ôl graddio!
Fel myfyriwr graddedig newydd o Brifysgol Bangor, bydd angen i chi i barhau i gael mynediad at CyswlltGyrfa.
sut gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd helpu
Newyddion Graddio
Memorabilia
Archebwch eich dillad graddio a rhoddion swyddogol!

Rwyt ti wedi cael y radd, dim ond prynu'r crys-t sydd ei angen! Rydym wedi ymuno â Campus Clothing i ddarparu ystod unigryw o nwyddau i'n graddedigion. Bydd nwyddau ar gael ar y diwrnod yn ein seremonïau graddio, a gellir hefyd eu harchebu ymlaen llaw trwy ein O hwdis a chrysau-t moethus gydag enwau graddedigion wedi'u hargraffu ar y cefn, i fygiau, tedis graddio, a bathodynnau pin. Dewiswch rywbeth arbennig i'w gadw i gofio am eich amser ym Mhrifysgol Bangor.
Ymweld â stondin fflach Campus Clothing ar eich diwrnod graddio
Dewch i ymweld â stondin fflach Campus Clothing yn eich seremoni raddio, lle bydd detholiad o nwyddau graddio ar gael i'w prynu. Bydd yr holl stoc ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Gallwch hefyd archebu eitemau yr hoffech eu personoli yn y digwyddiad, a byddant yn cael eu postio i'ch cyfeiriad cartref, ledled y byd!
Archebu nwyddau graddio personol ar-lein i'w danfon i’ch cartref
Porwch drwy’r ystod lawn o nwyddau graddio Prifysgol Bangor yn . Yma, gallwch archebu a phersonoli nwyddau graddio i'w gwneud yn gwbl unigryw i chi. Gall archebion a osodir ar-lein gael eu danfon ledled y byd, felly peidiwch â phoeni os na allwch gyrraedd eich seremoni raddio.
Wedi methu eich diwrnod graddio?
Peidiwch â phoeni, mae hwdis a chrysau-t gydag enwau graddedigion wedi'u hargraffu ar y cefn yn dal i fod ar gael i holl raddedigion y gorffennol trwy ein .
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG