Ymunwch â Martina Feilzer, Athro Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, ar gyfer Sesiwn Blasu ar-lein AM DDIM
Beth sy'n digwydd pan fydd y rhai sy'n ceisio Cyfiawnder yn gwneud camgymeriad? Bydd y sesiwn hon yn cynnwys trafodaeth ar sut mae'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr wedi'i threfnu i geisio cyfiawnder ac atal camweddau cyfiawnder, gan ddefnyddio Sgandal Swyddfa'r Post fel enghraifft o sut y gall pethau fynd yn ofnadwy o chwith. Sgandal Swyddfa'r Post yw'r camwedd cyfiawnder mwyaf arwyddocaol yn y degawdau diwethaf o ran maint y dioddefwyr yr effeithir arnynt a'i oblygiadau ar gyfer cyfiawnder troseddol. Mae'n codi cwestiynau ynghylch moeseg erlynwyr, cyfreithwyr, cwmnïau, a swyddfa'r post, yn ogystal â herio amddiffyniadau dibynadwy treialon teg ac athrawiaethau 'diniwed nes y profir yn euog'.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu: