¿ì»îÓ°Ôº

Fy ngwlad:

Sylwadau Llais (Adborth Sain) ar Blackboard

Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offer/adnodd hwn? 

Dechreuais ddefnyddio'r swyddogaeth sylwadau llais ar Blackboard tua diwedd y cyfnod Clo, gan fy mod yn teimlo bod y myfyrwyr (a minnau) yn colli'r berthynas un-i-un oherwydd nad oeddwn yn gallu gweld myfyrwyr wyneb yn wyneb neu mewn darlithoedd.  I ddechrau, roeddwn yn wyliadwrus o recordio fy llais fel hyn, o ystyried adroddiadau am ddelweddau a lleisiau darlithwyr yn cael eu camddefnyddio. Roedd gwerth gallu gadael recordiad o adborth personol yn gorbwyso fy mhryderon ynghylch gadael print llais digidol. 

Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio’r offer/adnodd hwn? 

  • Personoli adborth ar-lein ac adeiladu ar ymateb myfyrwyr i adborth a roddir mewn modd cadarnhaol.  
  • Galluogi adborth unigol cyflymach sy'n pontio'r amser y rhoddwyd y marc gydag anogaeth i fyfyrwyr geisio trafodaeth wyneb yn wyneb pellach lle bo modd. 

I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offer/adnodd? 

Defnyddir yr offeryn i alluogi elfen bersonol i'r adborth ar waith a aseswyd trwy Blackboard. Rwyf wedi defnyddio’r nodwedd gyda blynyddoedd 1-3 sy’n dilyn ystod o raddau o fewn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, ac wedi gweld ei fod yn cael ei werthfawrogi wrth ymholi'n anffurfiol gyda'r grwpiau modiwl.  Un ymateb achlysurol oedd bod myfyrwyr yn gweld y defnydd yn 'ddefnyddiol iawn' ac yn 'wahanol gan nad oes llawer o staff yn ei ddefnyddio' (dau fyfyriwr blwyddyn Anrhydedd)

Mae'r ffordd hon o gyfathrebu â myfyrwyr yn gwneud defnydd llawn o'r cyfleuster Blackboard Ultra, ac mae dolen gyfleus ato ger y dudalen aseiniad, fel bod myfyrwyr yn gallu ei gyrchu ochr yn ochr. 

Sut effeithiodd yr offer/adnodd ar eich addysgu? 

Rwy’n defnyddio’r offeryn am y rhesymau canlynol ac rwy’n teimlo ei fod yn gwella effaith adborth ar-lein y mae myfyrwyr yn ei gael gan ei fod yn creu rhyngwyneb mwy personol a sensitif gyda’r myfyrwyr. 

  • Mae'n ffordd gyfeillgar o gyfleu adborth mewn modd adeiladol a chadarnhaol, hyd yn oed pwyntiau a all fod yn negyddol ar bapur, gan gynnig awgrymiadau adferol. 
  • Mae’n galluogi adborth unigol sy'n gefnogol. Mae hyn oherwydd bod manylion adborth yn cael eu rhannu lle mae'r tiwtor yn ymwybodol o anghenion dysgu personol y myfyriwr, ac yn gallu ymateb i hyn yn sensitif gydag adborth llafar cryno. 
  • Mae’n caniatáu i'r myfyriwr ymgysylltu â'r tiwtor, yn hytrach na dim ond ymateb i farc ar system fwy amhersonol BlackBoard 
  • Fel arfer, rwy’n cyfuno’r adborth sylwadau llais gyda sylwadau copi caled. Caiff hyn hefyd ei ategu mewn rhai modiwlau gyda thrafodaeth un-i-un er mwyn galluogi’r gwerth llawnaf o adborth tiwtor ar waith a asesir. 
  • Mae'r nodwedd sylwadau llais hefyd yn ddefnyddiol wrth esbonio'r marc a ddyfarnwyd cyn trefnu adborth wyneb yn wyneb gyda myfyrwyr. 
  • Mae'n cynnig elfen o arbed amser wrth asesu gwaith, yn arbennig darnau byr o waith, lle gall ategu’r sylwadau ar y gwaith, e.e. cyflwyniadau neu grynodebau neu sgriptiau un dudalen. 
  • Gall hefyd gyd-fynd â chyfarfod ar-lein i drafod adborth mwy cymhleth, ac mae modd cyflwyno'r materion adborth/pynciau a fydd yn cael eu trafod ymlaen llaw, sy'n helpu tiwtorialau ar-lein. 
  • Gall sylwebaeth o'r fath, er ei bod wedi'i chreu i fyfyrwyr wrando arni, alluogi'r gwiriwr ac arholwyr allanol i ddeall y ffordd y mae'r modiwl yn gweithio a sut mae myfyrwyr yn datblygu ac yn cael eu cefnogi o fewn y modiwl. 
  • Rwy'n teimlo'n gyffredinol bod y nodwedd sylwadau llais yn ychwanegu at adborth, yn arbennig darnau byr o waith sy'n cael eu huwchlwytho i Backboard 
  • Mae'r offeryn hwn yn dyneiddio adborth ar-lein 

Pa mor llwyddiannus oedd yr offer/adnodd. A fyddech chi'n ei argymell? 

Mae'r offeryn hwn yn hawdd i'w ddefnyddio ac yn ddibynadwy iawn. Efallai y bydd angen i diwtoriaid ymarfer ei ddefnyddio, a fyddai ond yn cymryd amser byr iawn. Byddwn yn sicr yn argymell archwilio'r offeryn hwn i weld sut mae'n gweithio gydag arddull adborth pob aelod o staff. Mae rhai pwyntiau pellach yn ymwneud â defnyddio’r offer hwn y dylid eu hystyried: 

  • Gall maint grwpiau modiwl mawr gymryd llawer o amser ynghyd â marcio a rhoi adborth ar fathau eraill o adborth  
  • Mae angen mynediad i wifi a Blackboard 
  • Gall y recordiadau fod yn gryno ac yn fanwl, ond peidiwch â bod yn rhy hir - byddwch yn gadarnhaol. Yr hyd fwyaf a ganiateir yw 3 munud. Rwy'n anelu am tua 1-1.5 munud gan fy mod, fel arfer, yn defnyddio ail ffynhonnell adborth, e.e. sylwadau copi caled. 
  • Gall mynediad i’ch llais ar Blackboard fod yn destun bryder  
  • Byddai monitro ymateb myfyrwyr i sylwadau llais a lefel y manylder ar gyfer rhai mathau o asesiadau, e.e. rhifiadol, ymarferol, yn werthfawr iawn 
  • Mae gan wahanol unigolion ddewisiadau adborth gwahanol mewn gwahanol grwpiau modiwl  
  • Cadwch sylwadau’n gefnogol, hyd yn oed pan fo’r gwaith yn wannach – felly gall fod heriau o ran adborth llafar mewn rhai achosion oherwydd efallai na fydd rhai myfyrwyr yn ymateb i fanylion gwelliannau 
  • Dylid ategu’r sylwadau gydag adborth mwy manwl ar gyfer aseiniadau hirach, yn enwedig lle mae llawer y mae angen mynd i’r afael ag ef o fewn gwaith ar raddfa is y sbectrwm 
  • Sicrhewch fod myfyrwyr yn cymryd sylw llawn o'r holl adborth sydd ar gael ar gyfer pob aseiniad, nid eich sylwadau llais YN UNIG 
  • Ewch ati i ymarfer eich sylwadau yn gyntaf (gallwch eu chwarae a'u hail-recordio hefyd) a gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r sylwadau bob tro! 

Sut groeso gafodd yr offer/adnodd gan y myfyrwyr? 

Mae'r myfyrwyr yn gweld y sylwadau llais yn werthfawr ac maent yn aml yn mynd ar drywydd pwyntiau a drafodir yn yr offeryn pan fydd trafodaethau un-i-un yn cael eu trefnu.  Mae naturioldeb y recordiad hefyd yn bwysig. 

Rhannwch 'Awgrym Da' i gydweithiwr sy'n newydd i'r offer/adnodd 

Ewch ati i ymarfer eich arddull o ddefnyddio'r teclyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r recordiad, a chofiwch wirio nad oes unrhyw sŵn cefndir! 

Sut y byddwn yn crynhoi'r profiad mewn 3 gair? 

Cyfathrebu, unigol, cefnogol 

 

Deunyddiau darllen a argymhellir:

 

Cyswllt am ragor o wybodaeth: 

Eifiona Thomas Lane: eifiona.thomaslane@bangor.ac.uk 

Mae croeso i chi ebostio yn Gymraeg.